DEDDF Y MÔR A MYNEDIAD I’R ARFORDIR 2009
RHEOLIADAU GWAITH MOROL (ASESU EFFEITHIAU AMGYLCHEDDOL) 2007
HYSBYSIAD O BENDERFYNIAD CANIATÂD ASESU EFFEITHIAU AMGYLCHEDDOL
Rhoddir hysbysiad trwy hyn fod Cyfoeth Naturiol Cymru (“CNC”) wedi cynnal asesiad o’r effeithiau amgylcheddol dan Reoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007 fel y’u diwygiwyd (‘y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol’) mewn perthynas â Chebl Rhyngysylltu Greenlink. Yn unol â Rheoliad 22 y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol, mae CNC wedi penderfynu rhoi cymeradwyaeth asesu effeithiau amgylcheddol ar gyfer y prosiect yn amodol ar osod amodau.
Mae cadarnhad ysgrifenedig o’r penderfyniad caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar gael i’r cyhoedd ei archwilio ar gofrestr gyhoeddus CNC. Mae’r cadarnhad ysgrifenedig yn cynnwys y prif resymau ac ystyriaethau yr oedd y penderfyniad caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol yn seiliedig arnynt, crynodeb o’r ymgynghoriadau amgylcheddol yr ymgymerwyd â hwy a’r wybodaeth a gasglwyd, casgliad am effeithiau’r prosiect ar yr amgylchedd, a’r amodau sydd ynghlwm wrth y penderfyniad caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol.
Mae’r cadarnhad ysgrifenedig o’r penderfyniad caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar gael i’r cyhoedd ei archwilio yn rhad ac am ddim yn ystod oriau swyddfa arferol, sef 9am tan 5pm, yn y Gwasanaeth Trwyddedu, Cyfoeth Naturiol Cymru, Tŷ Cambria, 29 Heol Casnewydd, Caerdydd, CF24 0TP.
Gallwch hefyd gael copïau o’r cadarnhad ysgrifenedig o’r penderfyniad caniatâd asesu effeithiau amgylcheddol ar-lein yn https://publicregister.naturalresources.wales/ neu drwy e-bostio permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk. Os gofynnir am gopïau caled, efallai y byddwn yn codi tâl i dalu am y gost o greu copïau nad yw’n fwy na’r gost resymol o wneud hyn.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn awdurdod priodol dan y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol ac mae wedi derbyn swyddogaethau dirprwyedig fel yr awdurdod trwyddedu priodol gan Weinidogion Cymru at ddibenion Rhan 4 Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009. Bydd CNC yn parhau i wneud penderfyniad rheoleiddiol mewn perthynas â’r cais am drwydded forol.