DEDDF Y MÔR A MYNEDIAD I’R ARFORDIR 2009

RHEOLIADAU GWAITH MOROL (ASESU EFFEITHIAU AMGYLCHEDDOL) 2007

HYSBYSIAD O BENDERFYNIAD RHEOLEIDDIOL ASESU EFFEITHIAU AMGYLCHEDDOL

CEBL RHYNGYSYLLTU GREENLINK CML1929

Hysbysir trwy hyn fod Cyfoeth Naturiol Cymru (“CNC”) wedi gwneud ei benderfyniad rheoleiddiol o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 a Rheoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007 fel y’u diwygiwyd (“y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol”) o ran y prosiect uchod. Yn unol â Rheoliad 24 y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol a Rhan 4 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009, mae CNC wedi penderfynu rhoi cymeradwyaeth reoleiddiol ar gyfer y prosiect yn amodol ar osod amodau.

Mae copi ysgrifenedig o’r penderfyniad rheoleiddiol ar gael i’r cyhoedd ei archwilio ar gofrestr gyhoeddus CNC. Mae’r penderfyniad rheoleiddiol ar gael i’r cyhoedd ei archwilio am ddim yn ystod oriau swyddfa arferol rhwng 9am a 5pm yng Ngwasanaeth Trwyddedu Caerdydd, Cyfoeth Naturiol Cymru, Tŷ Cambria, 29 Heol Casnewydd, Caerdydd CF24 0TP.

Gallwch hefyd gael copïau o’r penderfyniad rheoleiddiol o https://publicregister.naturalresources.wales/ neu drwy e-bostio permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk. Os gofynnir am gopïau caled, efallai bydd yn rhaid talu costau copïo nad ydynt yn fwy na chostau copïo rhesymol.

Mae CNC yn awdurdod priodol dan y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol ac mae wedi derbyn swyddogaethau dirprwyedig fel yr awdurdod trwyddedu priodol gan Weinidogion Cymru at ddibenion Rhan 4 Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009.

SubscribeSubscribe
SUBSCRIBE & SAVE!

Subscribe to Fishing News magazine today; never miss an issue and save 55%!